top of page

Create Your First Project

Start adding your projects to your portfolio. Click on "Manage Projects" to get started

Stôl PT

Credydau

Ffotograffydd: Huw Morris-Jones

Dyddiad

Mawrth 2024

Dylunwyd y Stôl PT mewn ymateb i’r miloedd o swyddi yng ngwaith dur Port Talbot sydd am gael eu colli.

Adeiladwyd y stôl o ddur cadarn, gan adleisio esthetig diwydiannol y gwaith dur ei hun. Mae ei thair coes, yn bileri awdurdodol sy'n adlewyrchu rôl hanfodol y gwaith dur yn y gymuned, yr economi a thirwedd yr ardal. Mae'r dewis o ddeunyddiau a gwneuthuriad y darn yn adlewyrchu dyfalbarhad y gweithwyr sydd wedi bod yn asgwrn cefn i'r diwydiant ers cenedlaethau.

Mân fanylion y stôl sydd wir yn cyfleu tristwch a graddfa yr hyn sydd wedi cael ei benderfynu. Mae’r broses o ocsideiddio du sydd i’w weld ar waelod y stôl yn cynrychioli y marc mae’r gwaith dur wedi ei adael ar gymdeithas.
Ar ben y stôl gwelir yr effaith ddynol o ganlyniad i’r holl swyddi sydd ar fin eu colli. Mae dwy fil ac wyth cant o hoelion, pob un yn cynrychioli gweithiwr sy'n wynebu diweithdra, yn pylu wyneb y stôl. Mae'r rhwd sy'n ymledu ar hyd eu hymylon yn dynodi, gan symboleiddio erydiad
bywoliaethau, teuluoedd, a chymuned. Cynrychiola’r hoelion maint y golled a’r swyddi sydd am gael eu colli, sy'n ein hatgoffa o'r gost ddynol y tu ôl i benderfyniadau corfforiaethol. Mae'n adlais difrifol o frwydrau'r gorffennol, gan ein hatgoffa o gau'r pyllau glo a ddinistriodd nifer helaeth o gymunedau Cymreig ddegawdau yn ôl.

Mae'r Stôl PT yn symbol or hyn sydd yn digwydd yn ogystal a bod yn ffordd o fyfyrio am y sefyllfa a dangos empathi. Gan ennyn y cwestiwn pam nad oes mwy yn cael ei wneud er mwyn amdiffyn swyddi pobl Port Talbot?

©Guto Davies

2023

bottom of page