Create Your First Project
Start adding your projects to your portfolio. Click on "Manage Projects" to get started
Byrddau Stream
Mae'r bwrdd dur arloesol, Stream, yn hyrwyddo cynaliadwyedd trwy ddefnyddio metel sydd wedi'i hailgylchu a dulliau gweithgynhyrchu ynni-effeithlon. Wedi'i uno gyda bolltiau yn hytrach na weldio, yn ogystal a gwneud defnydd o'r broses ynni isel o blygu metel, mae'r bwrdd Stream yn ceisio arbed ynni yn ystod y broses gweithgynhyrchu. Mae'n hawdd i'w gydosod ac yn cael ei becynnu fel cynnyrch 'flat-pack' sydd unwaith eto yn ei wneud yn gynnyrch amgylcheddol gyfeillgar.
Mae Davies yn cyfrifo ôl troed carbon y bwrdd i fod tua 20.07kgCO2e a tua 86.086kwh o egni, sy'n sylweddol is na'r byrddau metel eraill sydd ar y farchnad. Yn gymharol, mae hyn yn debyg i yfed 4 cwpan o de y dydd am flwyddyn neu gyrru 40 milltir mewn car canolig. Mae'r prosiect hwn yn pwysleisio y gellir cyflawni cynnyrch amgylcheddol gyfeillgar allan o ddur. Y gobaith yw y bydd cwmnïau a dylunwyr ddilyn patrwm tebyg gan ddatgelu ol troed carbon a defnydd egni eu cynnyrch, gan wrthio cwsmeriaid i brynnu cynnyrch cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar.













