GUTO DAVIES
AMDANAF I
Dylunydd sy’n arbenigo mewn dodrefn, goleuadau ac amryw wrthrychau yw Guto Davies. Mae ei agwedd tuag at ddylunio wedi’i seilio ar egwyddorion o symlrwydd a gonestrwydd. Nid yn unig o ran ymddangosiad ei ddyluniadau ond hefyd eu ymarferoldeb. Trwy gymryd agwedd ymarferol ac arbrofol, mae’n gallu gwneud y defnydd gorau o ddeunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu, gan arwain at ddyluniadau sy’n effeithlon ac yn drawiadol.
Graddiodd Guto o Brifysgol Nottingham Trent gyda gradd mewn Dylunio Dodrefn a Chynnyrch, cyn symud i weithio yn Rotterdam gyda Studio Phil Procter. Yna fe aeth i Lundain i weithio i siop ddodrefn Viaduct ac yna fel dylunydd gyda Foster + Partners. Yn fwyaf diweddar symudodd i Vancouver i gael gweithio fel dylunydd yn stiwdio Calen Knauf, gan gyfrannu at amryw brosiectau dodrefn, goleuo, cynnyrch ac arddangosfeydd. Erbyn hyn mae ei stiwdio wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.
Maylion Cyswllt
Gwobrau
New Designers Gwobr Viaduct am Ddylunio Dodrefn Cyfoes y Flwyddyn 2023 // ND Tom Falukner 'Ones to Watch' 2023 // NTU Myfyriwr Dylunio Dodrefn & Cynnyrch Y Flwyddyn 2023 //
Arddangosfeydd
New Designers 2023 // Arddangosfa LDF Galeri Mint 'Alchemy of Form' 2023 // Lansiad Dodrefn DEKA 2023 // Arddangosfa Galeri Caernarfon 'Agored' 2023-24 // Arddangosfa Pontio 'Mor' 2024 // Arddangosfa Yr Eisteddfod 'Y Lle Celf' 2024 // Arddangosfa LDF Under One Roof Collective 2024 // Gwyl Ddylunio Llyn Como - Dewis Dylunio Cyfoes 2024 // Arddangosfa UORC 'Dylunio'r Gogledd' 2025 // Arddangosfa UORC 'Siop Somer' 2025