GUTO DAVIES
Create Your First Project
Start adding your projects to your portfolio. Click on "Manage Projects" to get started
CADAIR 1282
AR GAEL I'W DRWYDDEDU
2023
Mae'r gadair 1282 yn ymgorffori dyluniad cyfoes a ysbrydolwyd gan gadeiriau ffyn Cymreig, gan bwysleisio gwerth dylanwadau hanesyddol a diwylliannol mewn strategaeth ddylunio. Wedi'i sbarduno gan faniffesto "Beyond the New" gan Hella Jongerious a Louise Schewenberg, mae'r prosiect yn tynnu ar dreftadaeth Cymru trwy ymchwil dwys i’r cadeiriau ffyn traddodiadol.
Mae sylfaen y gadair yn deillio o freichiau crwm naturiol cadeiriau ffyn, gan siapio ei ddyluniad a'i ddimensiynau. Mae'r dull dylunio hwn yn mynd i'r afael â heriau ergonomig modern, gan ddefnyddio uchder braich unigryw cadeiriau ffyn traddodiadol. Dewiswyd dur gwrth-staen am ei wydnwch a'i edrychiad, er mwyn creu cyferbyniad bwriadol gyda’r cadeiriau pren gwreiddiol.
Mae'r prosiect yn myfyrio ar yr hyn y gellir ei ddysgu o'r gorffennol, hynny ydi, sut y gall edrych yn ol ar draddodiadau, deunyddiau a phrosesau coll fod yn sail i ddylunio cyfoes.

















