top of page

GUTO DAVIES

Create Your First Project

Start adding your projects to your portfolio. Click on "Manage Projects" to get started

BYRDDAU STREAM

Mae'r bwrdd dur arloesol, Stream, yn hyrwyddo cynaliadwyedd trwy ddefnyddio metel sydd wedi'i hailgylchu a dulliau gweithgynhyrchu ynni-effeithlon. Wedi'i uno gyda bolltiau yn hytrach na weldio, yn ogystal a gwneud defnydd o'r broses ynni isel o blygu metel, mae'r bwrdd Stream yn ceisio arbed ynni yn ystod y broses gweithgynhyrchu. Mae'n hawdd i'w gydosod ac yn cael ei becynnu fel cynnyrch 'flat-pack' sydd unwaith eto yn ei wneud yn gynnyrch fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Ôl-troed carbon cyfrifedig y bwrdd yw 20.07 kgCO₂e gyda defnydd ynni o 86.086 kWh – sy’n sylweddol is na byrddau metel cymharol sydd ar y farchnad. Mae’r byrddau yn dangos sut y gall cymysgedd o ddewisiadau call o brosesau gweithgynhyrchu a dylunio effeithlon greu cynnyrch fwy cynaliadwy.

CATEGORÏAU || PROSIECTAU

bottom of page